Canolfan Grefft Rhuthun

Mae’n gweithio mewn partneriaeth â thîm Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Ddinbych ac elusen leol; gyda chyllid o Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Y nod oedd mynd â thecstilau a roddwyd a fyddai fel arall yn gorfod mynd i safleoedd tirlenwi ac yn lle hynny eu huwchgylchu/ailgylchu yn eitemau defnyddiadwy, er enghraifft bagiau tote ‘am oes’.

 
Studio 3 Ruthin Craft Centre
 

“Rydw i wedi dysgu cymaint wrth gymryd rhan yn y prosiect hwn – nid dim ond sgiliau gwnïo ac addurno, ond hefyd gwerth prosiectau cymunedol. Wnaf i byth daflu hen lenni neu gyfnasau i ffwrdd eto ac rwyf wedi gwneud bagiau ar gyfer fy nheulu a’m ffrindiau i gyd”

“Rydw i wedi dysgu cymaint wrth gymryd rhan yn y prosiect hwn – nid dim ond sgiliau gwnïo ac addurno, ond hefyd gwerth prosiectau cymunedol. Wnaf i byth daflu hen lenni neu gyfnasau i ffwrdd eto ac rwyf wedi gwneud bagiau ar gyfer fy nheulu a’m ffrindiau i gyd” •

 
 

"Rwy’n mwynhau’r prosiect yn wirioneddol: gwneud bagiau brechdanau â ffabrig y gellir ei ail-ddefnyddio a chan fod fy mheiriant gwnïo allan o hyd, mae fy merch 7 oed yn dysgu gwnïo gan ddefnyddio’r peiriant hefyd. Mae wedi gwneud llyfr ffabrig!"

"Rwy’n mwynhau’r prosiect yn wirioneddol: gwneud bagiau brechdanau â ffabrig y gellir ei ail-ddefnyddio a chan fod fy mheiriant gwnïo allan o hyd, mae fy merch 7 oed yn dysgu gwnïo gan ddefnyddio’r peiriant hefyd. Mae wedi gwneud llyfr ffabrig!" •

 

Cyflwyniad Prosiect a Ffilmiau Tiwtorial

 

"Rydw i wedi llwyr fwynhau bod yn rhan o’r prosiect hwn, mae wedi gwneud i mi wnïo eto am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd a mwy! Roedd y cyfarwyddiadau clir ar-lein a’r opsiwn o fynd i weithdai’n ardderchog. Oherwydd ymrwymiadau gwaith, ni allwn fynd i bob un ond fe lwyddais i yn fy amser fy hun drwy wylio tiwtorials. Rhoddodd hyn synnwyr gwirioneddol o bwrpas i mi i wneud bagiau â ffabrig a fyddai fel arall wedi mynd i dirlenwi. Mae’n gwneud i mi feddwl y gallem ni gyd wneud cymaint mwy gydag ychydig o feddwl ac ymdrech"

"Rydw i wedi llwyr fwynhau bod yn rhan o’r prosiect hwn, mae wedi gwneud i mi wnïo eto am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd a mwy! Roedd y cyfarwyddiadau clir ar-lein a’r opsiwn o fynd i weithdai’n ardderchog. Oherwydd ymrwymiadau gwaith, ni allwn fynd i bob un ond fe lwyddais i yn fy amser fy hun drwy wylio tiwtorials. Rhoddodd hyn synnwyr gwirioneddol o bwrpas i mi i wneud bagiau â ffabrig a fyddai fel arall wedi mynd i dirlenwi. Mae’n gwneud i mi feddwl y gallem ni gyd wneud cymaint mwy gydag ychydig o feddwl ac ymdrech" •

 

Rhagymadrodd

(49 munud)

PROSIECT CYNTAF – TOTE BAG

(58 munud)

 

"Rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect a helpu i leihau gwastraff mewn ffordd greadigol. Bu’n ardderchog gweld y gweithdai a’r holl syniadau gwahanol"

"Rydw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect a helpu i leihau gwastraff mewn ffordd greadigol. Bu’n ardderchog gweld y gweithdai a’r holl syniadau gwahanol" •

 
grn.jpg
 

 Gweithdai

Rhowch gynnig ar ychwanegu rhywfaint o ddyluniad ychwanegol ac unigolrwydd i’ch bagiau Tote drwy ddarganfod dulliau gwnïo a thecstilau gwahanol. Tiwtor: Nigel Hurlstone

 

“Diolch yn fawr iawn! ‘Totally Textile’ !! Mae gweithdy heddiw wedi bod mor ysbrydoledig. Mae’r Banc Amser Tecstilau yn syniad mor arloesol”

“Diolch yn fawr iawn! ‘Totally Textile’ !! Mae gweithdy heddiw wedi bod mor ysbrydoledig. Mae’r Banc Amser Tecstilau yn syniad mor arloesol” •

 

Gweadedd ac Arwyneb

Mae’n fymryn bach o hud, ond yn broses syml iawn (wedi’i wneud ar ddiwedd hongiwr côt weiren!!) a elwir yn ‘binio gwallt’. Mae’n drawiadol bob amser ac yn defnyddio mwy fyth o ffabrigau eildro.

Gwneud Patrymau Optegol

Archwilio patrwm set ar streipiau i wneud patrymau optegol. Wedi’u creu fel samplau o fewn eu hawl eu hunain neu ‘uwch-gylchu’ a’u cydio wrth eich bag chi i’w wneud yn boced.

Applique Gwrthdro

Gwnïo haenau lluosog o liain â’i gilydd mewn patrymau ac yna torri’n ôl i ddatgelu gweadeddau a lliwiau oddi tanodd. Gall effeithiau fod yn raffig neu’n weadeddol bur.

 

“Wedi dod o hyd i ffordd ysbrydoledig ardderchog o ddefnyddio llenni/cynfasau/sbarion a gwneud c cynnyrch defnyddiol yn ogystal! Mae’r peiriant yn rhyfeddol, y prosiect yn ysgafn ond yn teimlo’n waith trwm ac mae rhoi edau drwy nodwydd yn amhrisiadwy i mi sydd â bysedd arthritig... Gallaf wnïo eto!!”

“Wedi dod o hyd i ffordd ysbrydoledig ardderchog o ddefnyddio llenni/cynfasau/sbarion a gwneud c cynnyrch defnyddiol yn ogystal! Mae’r peiriant yn rhyfeddol, y prosiect yn ysgafn ond yn teimlo’n waith trwm ac mae rhoi edau drwy nodwydd yn amhrisiadwy i mi sydd â bysedd arthritig... Gallaf wnïo eto!!” •

 
 

Orielau Delweddau

 

Gweadedd ac Arwyneb

 

"Y syniad yw gwneud bagiau ar gyfer aelodau unigol o’r teulu, eu llenwi ag anhregion (heb eu lapio) a’u rhoi ar gyfer y Nadolig/penblwyddi. Mae’n arbed papur lapio ac yn rhoi bag sy’n unigryw iddyn nhw"

"Y syniad yw gwneud bagiau ar gyfer aelodau unigol o’r teulu, eu llenwi ag anhregion (heb eu lapio) a’u rhoi ar gyfer y Nadolig/penblwyddi. Mae’n arbed papur lapio ac yn rhoi bag sy’n unigryw iddyn nhw" •

 

Gwneud Patrymau Optegol

 

“Wedi dod o hyd i ffordd ysbrydoledig ardderchog o ddefnyddio llenni/cynfasau/sbarion a gwneud c cynnyrch defnyddiol yn ogystal! Mae’r peiriant yn rhyfeddol, y prosiect yn ysgafn ond yn teimlo’n waith trwm ac mae rhoi edau drwy nodwydd yn amhrisiadwy i mi sydd â bysedd arthritig... Gallaf wnïo eto!!”

“Wedi dod o hyd i ffordd ysbrydoledig ardderchog o ddefnyddio llenni/cynfasau/sbarion a gwneud c cynnyrch defnyddiol yn ogystal! Mae’r peiriant yn rhyfeddol, y prosiect yn ysgafn ond yn teimlo’n waith trwm ac mae rhoi edau drwy nodwydd yn amhrisiadwy i mi sydd â bysedd arthritig... Gallaf wnïo eto!!” •

 

Applique Gwrthdro

 

“Mae hyn yn fy ail-wefru â chreadigrwydd y gelfyddyd o wnïo.”

“Mae hyn yn fy ail-wefru â chreadigrwydd y gelfyddyd o wnïo.” •

 
grn.jpg