Diolch unwaith eto i chi i gyd am gymryd rhan yn y Prosiect Banc Amser Tecstilau – rydym yn gwerthfawrogi eich holl waith caled yn fawr iawn ac yn gobeithio eich bod wedi mwynhau cymaint ag y gwnaethom.
Mae llawer o syniadau ac awgrymiadau wedi'u cyflwyno ynghylch ble y dylid cyfeirio arian a roddwyd o'r prosiect, felly'r ffordd decaf i symud ymlaen o'r fan hon yw rhoi'r pum awgrym hynny i bleidlais y cyfranogwyr.
Defnyddiwch y ddewislen isod a chofrestrwch eich pleidlais cyn 7 Awst – yna bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu'n gyfartal rhwng y ddau sefydliad mwyaf poblogaidd.
Apêl Wcráin y Groes Goch Brydeinig yn darparu bwyd hanfodol, dŵr, cymorth cyntaf, meddyginiaethau, dillad cynnes a lloches i'r rhai sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng.
Cooptions a fu’n garedig iawn yn rhoi’r holl ddeunyddiau crai a ddefnyddiwyd trwy gydol y Prosiect Banc Amser Tecstilau ac sy’n darparu ystod o brosiectau menter gymdeithasol lleol gwych.
Ymchwil Canser y DU i ariannu gwyddonwyr, meddygon a nyrsys hanfodol i helpu i drechu canser yn gynt.
Cymdeithas Alzheimer sy'n ceisio sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan ddementia yn cael y cymorth a'r gofal y maent yn eu haeddu.
Hosbis a Chanolfan Gofal Lliniarol St. Kentigerns sy'n darparu gofal hosbis anhygoel ar draws y rhanbarth.